Mae Cyngor Dinas
Caerdydd yn ymrwymo i gyhoeddi mwy a mwy o'i ddata. Mae hyn yn hybu bod yn agored a thryloywder ac yn
rhoi'r gallu i eraill ail-ddefnyddio'r data mewn ffyrdd
newydd a chyda dychymyg.
Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi mabwysiadu dull
Llywodraeth y DU o gyhoeddi data at leiafswm o 3 seren.
Golyga hyn fod
ein data yn hawdd ei gael ac ar gael i’w ddefnyddio fel
y bo angen (yn dibynnu ar y telerau a nodir yn Nhrwydded
Llywodraeth Agored).
Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod yr holl
setiau data rydym yn eu cyhoeddi'n cyrraedd y safon hon.
Data personol
Mae diogelu eich data
personol yn hollbwysig i ni.
Data nad yw’n cynnwys data personol yn unig rydym yn ei
gyhoeddi, neu ddata y mae’r elfennau personol wedi eu
tynnu ohono. Ni fydd cyhoeddi data'n amharu ar ein dyletswyddau o
ran cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data.
Data.gov.uk
Data.gov.uk
yw
storfa ddata genedlaethol Llywodraeth y DU.
Y nod yw sicrhau bod y data a gyhoeddir gan
sefydliadau'r sector cyhoeddus yn y DU ar gael yn rhwydd.
Ein bwriad yw rhoi’r symiau cynyddol o ddata sydd ar
gael ar y wefan hon yn ogystal ag yma ar
caerdydd.gov.uk.
Safon y data
Mae angen i’r data fod mor
gywir â phosib ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau
hynny cyn ei gyhoeddi.
Fodd bynnag, dydyn ni ddim am i safon y data fod yn
rhwystr rhag cyhoeddi data ac os down i wybod am unrhyw
broblem, rhown wybod i chi.
Gallwch chi hefyd ein helpu ni i wella safon ein
data.
Os gwelwch unrhyw gamgymeriad, rhowch wybod i ni ac awn ati i’w gywiro.