Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Rhyddid Gwybodaeth a Data Agored

Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn ymrwymo i gyhoeddi mwy a mwy o'i ddata.  Mae hyn yn hybu bod yn agored a thryloywder ac yn rhoi'r gallu i eraill ail-ddefnyddio'r data mewn ffyrdd newydd a chyda dychymyg.

 

Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi mabwysiadu dull Llywodraeth y DU o gyhoeddi data at leiafswm o 3 seren. 

Golyga hyn fod ein data yn hawdd ei gael ac ar gael i’w ddefnyddio fel y bo angen (yn dibynnu ar y telerau a nodir yn Nhrwydded Llywodraeth Agored).   Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod yr holl setiau data rydym yn eu cyhoeddi'n cyrraedd y safon hon.

Data personol
Mae diogelu eich data personol yn hollbwysig i ni.  Data nad yw’n cynnwys data personol yn unig rydym yn ei gyhoeddi, neu ddata y mae’r elfennau personol wedi eu tynnu ohono.  Ni fydd cyhoeddi data'n amharu ar ein dyletswyddau o ran cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data.

Data.gov.uk
Data.gov.uk yw storfa ddata genedlaethol Llywodraeth y DU.  Y nod yw sicrhau bod y data a gyhoeddir gan sefydliadau'r sector cyhoeddus yn y DU ar gael yn rhwydd.  Ein bwriad yw rhoi’r symiau cynyddol o ddata sydd ar gael ar y wefan hon yn ogystal ag yma ar caerdydd.gov.uk.

Safon y data
Mae angen i’r data fod mor gywir â phosib ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau hynny cyn ei gyhoeddi.  Fodd bynnag, dydyn ni ddim am i safon y data fod yn rhwystr rhag cyhoeddi data ac os down i wybod am unrhyw broblem, rhown wybod i chi.   Gallwch chi hefyd ein helpu ni i wella safon ein data. Os gwelwch unrhyw gamgymeriad, rhowch wybod i ni ac awn ati i’w gywiro.






expandLleoliadau biniau graean

Darperir biniau graean i’w defnyddio gan aelodau’r cyhoedd a’r gwasanaethau brys ar y briffordd fabwysiedig. Byddwn yn darparu cynhwysydd halen lle y nodwyd angen ar lwybrau nad ydynt ar y rhwydwaith graeanu ymlaen llaw. Mae’r rhestr yn rhoi manylion o leoliadau biniau graean o fewn Dinas Caerdydd. Gellir cael ragor o wybodaeth sy’n perthyn i Gynnal a Chadw yn y Gaeaf yma:  https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/Gwaith-Cynnal-a-Chadw-Ffyrdd-yn-y-Gaeaf/Pages/Gwaith-Cynnal-a-Chadw-Ffyrdd-yn-y-Gaeaf.aspx


expandLleoliadau Camerâu Gorfodi Cylch Cyfyng

​Rhestr o leoliadau dyfeisiau teledu cylch cyfyng a ddefnyddir at ddibenion gorfodi traffig o fewn Dinas Caerdydd.


expandLwfansau i Gynghorwyr

Mae’r cyngor yn cyhoeddi manylion o’r holl lwfansau a delir i gynghorwyr yn flynyddol.