Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Rhyddid Gwybodaeth a Data Agored

Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn ymrwymo i gyhoeddi mwy a mwy o'i ddata.  Mae hyn yn hybu bod yn agored a thryloywder ac yn rhoi'r gallu i eraill ail-ddefnyddio'r data mewn ffyrdd newydd a chyda dychymyg.

 

Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi mabwysiadu dull Llywodraeth y DU o gyhoeddi data at leiafswm o 3 seren. 

Golyga hyn fod ein data yn hawdd ei gael ac ar gael i’w ddefnyddio fel y bo angen (yn dibynnu ar y telerau a nodir yn Nhrwydded Llywodraeth Agored).   Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod yr holl setiau data rydym yn eu cyhoeddi'n cyrraedd y safon hon.

Data personol
Mae diogelu eich data personol yn hollbwysig i ni.  Data nad yw’n cynnwys data personol yn unig rydym yn ei gyhoeddi, neu ddata y mae’r elfennau personol wedi eu tynnu ohono.  Ni fydd cyhoeddi data'n amharu ar ein dyletswyddau o ran cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data.

Data.gov.uk
Data.gov.uk yw storfa ddata genedlaethol Llywodraeth y DU.  Y nod yw sicrhau bod y data a gyhoeddir gan sefydliadau'r sector cyhoeddus yn y DU ar gael yn rhwydd.  Ein bwriad yw rhoi’r symiau cynyddol o ddata sydd ar gael ar y wefan hon yn ogystal ag yma ar caerdydd.gov.uk.

Safon y data
Mae angen i’r data fod mor gywir â phosib ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau hynny cyn ei gyhoeddi.  Fodd bynnag, dydyn ni ddim am i safon y data fod yn rhwystr rhag cyhoeddi data ac os down i wybod am unrhyw broblem, rhown wybod i chi.   Gallwch chi hefyd ein helpu ni i wella safon ein data. Os gwelwch unrhyw gamgymeriad, rhowch wybod i ni ac awn ati i’w gywiro.






expandMeysydd Parcio'r Cyngor

Rhestr o’r holl feysydd parcio a berchnogir gan y cyngor gan gynnwys lle am geir, lleoedd i'r rhai sydd â bathodyn glas a lleoedd i feiciau modur.  Gellir cael mynediad at Oriau Agor a chyfeiriadau  Llywiwr Lloeren yma: https://www.cardiff.gov.uk/ENG/resident/Parking-roads-and-travel/Parking-in-Cardiff/Car-parks/Pages/Car-Parks.aspx


expandMynwentydd ac Amlosgfeydd

<div class="ExternalClass706BB581CB3E46909FB523EC26553310">​Mae Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd yn rhan o Gyngor Dinas Caerdydd. Rydym yn gweithredu amlosgfa Caerdydd yn Nraenen Pen-Y-Graig a 7 mynwent yng Nghaerdydd. Gellir cael rhagor o wybodaeth gan gynnwys oriau agor yma&#58; https&#58;//cardiffbereavement.co.uk/cy/mynwentydd/</div>