Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Rhyddid Gwybodaeth a Data Agored

Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn ymrwymo i gyhoeddi mwy a mwy o'i ddata.  Mae hyn yn hybu bod yn agored a thryloywder ac yn rhoi'r gallu i eraill ail-ddefnyddio'r data mewn ffyrdd newydd a chyda dychymyg.

 

Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi mabwysiadu dull Llywodraeth y DU o gyhoeddi data at leiafswm o 3 seren. 

Golyga hyn fod ein data yn hawdd ei gael ac ar gael i’w ddefnyddio fel y bo angen (yn dibynnu ar y telerau a nodir yn Nhrwydded Llywodraeth Agored).   Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod yr holl setiau data rydym yn eu cyhoeddi'n cyrraedd y safon hon.

Data personol
Mae diogelu eich data personol yn hollbwysig i ni.  Data nad yw’n cynnwys data personol yn unig rydym yn ei gyhoeddi, neu ddata y mae’r elfennau personol wedi eu tynnu ohono.  Ni fydd cyhoeddi data'n amharu ar ein dyletswyddau o ran cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data.

Data.gov.uk
Data.gov.uk yw storfa ddata genedlaethol Llywodraeth y DU.  Y nod yw sicrhau bod y data a gyhoeddir gan sefydliadau'r sector cyhoeddus yn y DU ar gael yn rhwydd.  Ein bwriad yw rhoi’r symiau cynyddol o ddata sydd ar gael ar y wefan hon yn ogystal ag yma ar caerdydd.gov.uk.

Safon y data
Mae angen i’r data fod mor gywir â phosib ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau hynny cyn ei gyhoeddi.  Fodd bynnag, dydyn ni ddim am i safon y data fod yn rhwystr rhag cyhoeddi data ac os down i wybod am unrhyw broblem, rhown wybod i chi.   Gallwch chi hefyd ein helpu ni i wella safon ein data. Os gwelwch unrhyw gamgymeriad, rhowch wybod i ni ac awn ati i’w gywiro.






expandGorfodi Gwasanaethau Cymdogaethau

Dadansoddiad o’r holl hysbysiadau gorfodi gwasanaethau cymdogaethau a gyhoeddwyd o fewn pob blwyddyn ariannol. Dadansoddir hyn yn ôl trosedd, cyfanswm yr Hysbysiad Cosb Benodedig (HCB), cyfanswm y nifer o HCB a ddosbarthwyd, yr incwm a grëwyd, a dalwyd yr HCB neu beidio a hefyd unrhyw gamau cyfreithiol, os y’u cymerwyd. Mae’r set data hwn yn cynnwys gwybodaeth hanesyddol sy’n dyddio yn ôl i 1 Ebrill 2011.  Caiff setiau data eu diweddaru'n chwarterol.


expandGraddau Arfarnu Swyddi

Rhestr o holl deitlau swyddi cyflogeion Cyngor Caerdydd a graddau tâl.


expandGweithredwyr Llogi Preifat wedi’i Drwyddedu

Mae’n rhaid i unrhyw un sydd eisiau derbyn archebion llogi preifat gael ei drwyddedu fel gweithredwr llogi preifat. Mae hon yn rhestr o bob gweithredwr llogi preifat o fewn Dinas Caerdydd a chaiff ei diweddaru yn chwarterol. Mae’n rhaid i unrhyw un sydd eisiau derbyn archebion llogi preifat gael ei drwyddedu fel gweithredwr llogi preifat. Mae hon yn rhestr o bob gweithredwr llogi preifat o fewn Dinas Caerdydd a chaiff ei diweddaru yn chwarterol.