Skip Ribbon Commands Skip to main content
English
Sign In
Navigate Up

Data agored

Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn ymrwymo i gyhoeddi mwy a mwy o'i ddata.  Mae hyn yn hybu bod yn agored a thryloywder ac yn rhoi'r gallu i eraill ail-ddefnyddio'r data mewn ffyrdd newydd a chyda dychymyg.

 

Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi mabwysiadu dull Llywodraeth y DU o gyhoeddi data at leiafswm o 3 seren. 

Golyga hyn fod ein data yn hawdd ei gael ac ar gael i’w ddefnyddio fel y bo angen (yn dibynnu ar y telerau a nodir yn Nhrwydded Llywodraeth Agored).  Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod yr holl setiau data rydym yn eu cyhoeddi'n cyrraedd y safon hon.

Data personol
Mae diogelu eich data personol yn hollbwysig i ni.  Data nad yw’n cynnwys data personol yn unig rydym yn ei gyhoeddi, neu ddata y mae’r elfennau personol wedi eu tynnu ohono.  Ni fydd cyhoeddi data'n amharu ar ein dyletswyddau o ran cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data.

Data.gov.uk
Data.gov.uk yw storfa ddata genedlaethol Llywodraeth y DU.  Y nod yw sicrhau bod y data a gyhoeddir gan sefydliadau'r sector cyhoeddus yn y DU ar gael yn rhwydd.  Ein bwriad yw rhoi’r symiau cynyddol o ddata sydd ar gael ar y wefan hon yn ogystal ag yma ar caerdydd.gov.uk.

Safon y data
Mae angen i’r data fod mor gywir â phosib ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau hynny cyn ei gyhoeddi.  Fodd bynnag, dydyn ni ddim am i safon y data fod yn rhwystr rhag cyhoeddi data ac os down i wybod am unrhyw broblem, rhown wybod i chi.   Gallwch chi hefyd ein helpu ni i wella safon ein data.  Os gwelwch unrhyw gamgymeriad, rhowch wybod i ni ac awn ati i’w gywiro.



A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y



expandLleoliadau Camerâu Gorfodi Cylch Cyfyng

<div class="ExternalClass9A617E223FDB41A48DF6C04E617513E8">​Rhestr o leoliadau dyfeisiau teledu cylch cyfyng a ddefnyddir at ddibenion gorfodi traffig o fewn Dinas Caerdydd.</div>